Hen Ysgubor - Mae Hen Ysgubor yn cysgu hyd at 6 person. Bydd awyrgylch groesawgar yn eich disgwyl yn ystafell fyw gartrefol Hen Ysgubor. Mae stôf goed yma i'ch cadw'n gynnes ar nosweithiau oer.

Mae'r gegin gyflawn yn cynnwys golchwr llestri, oergell, microdon, rhewgell, popty maint llawn / hob, peiriant golchi dillad / sychwr dillad a chyfarpar smwddio. Ceir hefyd gasgliad cyflawn o lestri, gwydrau, cytleri, sosbenni ayb i wneud coginio yn bleser. Ar y llawr isaf mae ystafell wely gyda gwely king, ystafell en-suite fawr, gyda thoiled a basn golchi dwylo. Mae'r ystafell hon yn addas ar gyfer yr anabl. Yn y llofft, mae dwy ystafell wely, un gyda dau wely sengl a'r llall gyda gwely dwbl. Mae gan yr ystafell wely ddwbl ystafell en-suite gyda chawod y gellir cerdded i mewn iddi. Yn yr un modd, mae gan yr ystafell wely twin, ensuite gyda baddon.

Argaeledd ac archebu

Mae'r ddau fwthyn yn mwynhau golygfeydd trawiadol o'r wlad.

Ymhob bwthyn mae:

  • Twba poeth preifat
  • Dillad gwely a thywelion
  • Gwres canolog olew
  • Basged o goed tân, gellir prynu rhagor o goed yn y ffermdy
  • Teledu /DVD/Radio/CD
  • Cysylltiad â’r rhyngrwyd
  • Popty llawn maint
  • Peiriant golchi llestri
  • Microdon
  • Rhewgell-rhewgist
  • Peiriant golchi dillad/ sychdaflwr
  • Cyfleusterau smwddio
  • Casgliad o lestri, offer coginio, gwydrau, cyllyll a ffyrc, a sosbanau.
  • Cot, cadair uchel a llidiart staer
  • Sychwr gwallt
  • Mynediad heb risiau
  • Parcio am ddim
  • Ystafell chwaraeon – bwrdd pŵl, tenis bwrdd
  • Patio gyda dodrefn gardd
  • Barbeciw
  • Croeso i gŵn - £25 y ci
  • Taflenni atyniadau lleol
  • Addurniadau Nadolig dros y cyfnod
  • Te croeso wrth gyrraedd

Mae Hen Ysgubor a Beudy Bach yn fythynnod ar gyfer pob tymor o'r flwyddyn.

 

Croeso i wefan Fferm Gwarffynnon

Bythynnod Gwyliau Hen Ysgubor a Beudy Bach

Argaeledd ac archebu

Gyda golygfeydd gwledig, mae’r bythynnod hyn yn cynnig lle delfrydol i bobl sydd am ymweld â’r ardal, y traethau godidog, llwybrau’r fro neu wylio adar a bywyd gwyllt. Mae’r bythynnod yn agos i Lanbed, a 11 milltir o dref glan môr Aberaeron, gyda’i chasgliad o siopau, gwestai a llefydd bwyta.

Tref farchnad a phrifysgol yw Llanbed, a chanddi hanes hynod ddiddorol. Y Brifysgol yw’r sefydliad colegol hynaf ym Mhrydain ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt ac fe’i sefydlwyd drwy Siartr Brenhinol ym 1822.

Y lleoliad perffaith ar gyfer dianc am benwythnos gyda ffrinidiau, gwyliau rhamantus ac antur, neu gwyliau i’r teulu.

Ein nod yw cynnig profiad cofiadwy i chi yma yng Ngwarffynnon a’ch helpu i ddod o hyd i’r elfennau hynny sy’n gwneud i chi deimlo ar eich gorau. Mae’r cyfan yn dechrau wrth i chi gyrraedd gyda chacennau cartref blasus i’ch croesawu yma!

Mae croeso cynnes yn eich aros yng Ngwarffynnon, felly cysylltwch â ni heddiw i archebu eich gwyliau!

Ar agor drwy’r flwyddyn.

Defnyddiwn egni adnewyddadwy glân yn ein bythynnod.