• slide

Beudy Bach - Cysgir hyd at 4 oedolyn a 2 blentyn ym Meudy Bach. Cyn adeilad fferm wedi ei drawsnewid yw hwn ac wrth i chi gamu i mewn mae awyrgylch groesawgar yn eich disgwyl yn y lolfa gartrefol gyda lle tân o gerrig a derw. Bydd y stôf llosgi coed wedi ei pharatoi ar eich cyfer os ydych yn cyrraedd pan fo’r tywydd ychydig yn oerach. Mae’r bwthyn wedi ei ddodrefnu gyda dodrefn derw drwyddo draw. Ceir teledu gyda chwaraewr DVD a CD.

Mae’r gegin yn cynnwys popeth y byddech yn ei ddisgwyl o fwthyn 5 seren, gyda golchwr llestri, oergell, microdon, rhewgell, popty maint llawn / hob, peiriant golchi dillad / sychwr dillad a chyfarpar smwddio i gyd yn gynwysedig. Ceir hefyd gasgliad cyflawn o lestri, gwydrau, cytleri, sosbenni ac offer cegin ayb i wneud coginio yn bleser. Drws nesaf i’r gegin ceir ystafell iwtiliti sy’n addas ar gyfer sychu a storio esgidiau cerdded ayb.

Ar y llawr isaf, mae ystafell wely gyda dau wely sengl ac ystafell ymolchi en-suite helaeth, gyda chawod, toiled a basn golchi dwylo. Dodrefn derw yn cynnwys cwpwrdd dillad, cist ddroriau, cabinet wrth ochr y gwely a drych. Arweinir y grisiau derw i ystafell wely fawr deuluol gyda gwely maint king a gwelâu bync (i blant yn unig). Ceir ystafell en-suite yma hefyd gyda bath, toiled a basn golchi dwylo.

Argaeledd ac archebu

Mae'r ddau fwthyn yn mwynhau golygfeydd trawiadol o'r wlad.

Ymhob bwthyn mae:

  • Twba poeth
  • Dillad gwely a thywelion
  • Gwres canolog olew
  • Basged o goed tân, gellir prynu rhagor o goed yn y ffermdy
  • Teledu /DVD/Radio/CD
  • Cysylltiad â’r rhyngrwyd
  • Popty llawn maint
  • Peiriant golchi llestri
  • Microdon
  • Rhewgell-rewgist
  • Peiriant golchi dillad/ sychdaflwr
  • Cyfleusterau smwddio
  • Casgliad o lestri, offer coginio, gwydrau, cyllyll a ffyrc, a sosbanau.
  • Cot, cadair uchel a llidiart staer
  • Sychwr gwallt
  • Mynediad heb risiau
  • Parcio am ddim
  • Ystafell chwaraeon – bwrdd pŵl, tenis bwrdd
  • Patio gyda dodrefn gardd
  • Barbeciw
  • Croeso i gŵn - £25 y ci
  • Taflenni o atyniadau lleol
  • Addurniadau Nadolig dros y cyfnod
  • Te croeso wrth gyrraedd

Mae Hen Ysgubor a Beudy Bach yn fythynnod ar gyfer pob tymor o'r flwyddyn.

Croeso i wefan Fferm Gwarffynnon

Bythynnod Gwyliau Hen Ysgubor a Beudy Bach

Argaeledd ac archebu

Gyda golygfeydd gwledig, mae’r bythynnod hyn yn cynnig lle delfrydol i bobl sydd am ymweld â’r ardal, y traethau godidog, llwybrau’r fro neu wylio adar a bywyd gwyllt. Mae’r bythynnod yn agos i Lanbed, a 11 milltir o dref glan môr Aberaeron. Defnyddiwn egni adnewyddadwy glân yn ein bythynnod.

Y lleoliad perffaith ar gyfer dianc am benwythnos gyda ffrinidiau, gwyliau rhamantus ac antur, neu gwyliau i’r teulu.

Mae Beudy Bach yn cysgu hyd at 4 oedolyn a 2 blentyn. Wrth i chi gamu i mewn mae awyrgylch groesawgar yn eich disgwyl yn y lolfa gartrefol gyda lle tân o gerrig a derw. Mae yna ystafell wely twin gyfagos ac ystafell ymolchi fawr en-suite, gyda chawod, toiled a basn golchi dwylo. Mae'r grisiau pren yn arwain i fyny at ystafell wely deuluol gyda gwely maint king a gwelyau bync gydag ystafell ymolchi en-suite gyda bath. *Sylwch fod y gwelyau bync yn addas i blant yn unig.*

Mae Hen Ysgubor yn cysgu hyd at 6 o bobl. Wrth i chi gerdded i mewn i’r bwthyn gwyliau clyd, cyfeillgar i’r anabl, mae awyrgylch croesawgar yn eich disgwyl yn y lolfa gartrefol gyda stôf llosgi coed ar gyfer y nosweithiau oerach. Mae ystafell wely ar y llawr gwaelod gyda gwely maint king yn addas ar gyfer y gwesteion llai symudol ac mae ganddi gawod ystafell ymolchi en suite. Mae'r grisiau yn arwain hyd at ddwy ystafell wely, un ystafell wely twin gyda bath en suite ac ystafell wely gyda gwely dwbl ac ystafell ymolchi gawod en suite y gellir cerdded i mewn iddi. Mae golygfeydd gwych o Gymru yn y ddau fwthyn gwyliau.

Ein nod yw cynnig profiad cofiadwy i chi yma yng Ngwarffynnon a’ch helpu i ddod o hyd i’r elfennau hynny sy’n gwneud i chi deimlo ar eich gorau. Mae’r cyfan yn dechrau wrth i chi gyrraedd gyda chacennau cartref blasus i’ch croesawu yma!

Mae croeso cynnes yn eich aros yng Ngwarffynnon, felly cysylltwch â ni heddiw i archebu eich gwyliau!