Gwybodaeth am yr ardal

Mae digon i chi ei wneud yn ystod eich arhosiad ar Fferm Gwarffynnon, beth bynnag ydy’r tywydd!

Mae traethau godidog Bae Ceredigion yn agos, gydag Aberaeron 11 milltir o’r fferm.Gallwch gerdded, chwarae golff, mynd ar deithiau pysgota ar y môr a defnyddio’r llu o gyfleusterau chwaraeon dŵr sydd ar gael yn yr adral.

Llanbedr Pont Steffan

Rydym tua milltir tu allan i Lanbedr Pont Steffan, lle ceir nifer o dai bwyta, tafarndai ac amrywiaeth o siopau. Mae yno dwy archfarchnad, siopau bach teuluol, siop yn gwerthu bwydydd organig a marchnad y ffermwyr bob pythefnos.

Mae tref Llanbedr Pont Steffan - neu Lanbed - yn enwog am Goleg Prifysgol Dewi Sant, y coleg prifysgol hynaf yng Nghymru a Lloegr ar wahân i Rydychen a Chaergrawnt. Cloddiodd y Rhufeiniaid am aur gerllaw Llanbed ym Mhumsaint.

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd Llanbed yn fan pwysig gogyfer â chasglu creaduriaid at ei gilydd i'w gyrru i farchnadoedd Lloegr bell gan y porthmyn. Mae cefn gwlad fendigedig i'w mwynhau yn ardal Llanbed a physgota heriol ar yr afon Teifi gerllaw.

Tref Llanbed

Atyniadau Lleol

Mae traethau o fri a threfi harbwr trawiadol yn gwneud arfordir Ceredigion yn lle hyfryd i ymweld ag ef – wrth edrych yn ofalus, efallai y gwelwch chi ddolffiniaid neu forloi. Y rhan yma o'r byd a roddodd ysbrydoliaeth i Dylan Thomas gyfansoddi rhai o'i gampweithiau barddonol mwyaf. Ar y cyrion saif Mynyddoedd Cambria, asgwrn cefn Cymru, sy'n orlawn o fywyd gwyllt, chwedlau a thirluniau rhyfeddol.

Gan amrywio o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth, sydd yn cartrefu rhai o drysorau pennaf y genedl Gymreig a'r gwledydd Celtaidd eraill, i dripiau cychod glan môr, gwarchodfeydd natur, llwybrau cerdded a beicio pleserus, mae gan Geredigion ystod gyfoethog o brofiadau i'ch disgwyl.

Teithio

Bwcabus. Gwasanaeth bysiau lleol, sydd ar gael yn ôl y galw ac sy’n defnyddio cerbydau mynediad hwylus yw’r Bwcabus.

Amserlen bysus/trenau

Dyma i chi rai syniadau am lefydd i’w ymweld ac i’ch cadw chi a’r plant yn brysur!

Cerdded/Bywyd Gwyllt/Cefn Gwlad

Atyniadau i Blant

Hanes

Y Celfyddydau/Crefftau

Chwaraeon

Atyniadau:

Beth sydd mlaen

Cyfarwyddiadau i Gwarffynnon:

O Lanbed, ewch ar yr A487 tuag at Aberaeon. Tua milltir ar ôl gadael y dref, trwoch i’r dde tuag at Silian. Ewch am tua hanner milltir heibio Llyn Glyn Hebog nes dowch at goresffordd. Trowch i’r chwith a bydd Fferm Gwarffynnon ar eith chwith.

Cod post: SA48 8AP.

Cysylltwch â Gwen:

Gwarffynnon,

Silian,

Llanbedr Pont Steffan,

Ceredigion

SA48 8AP

Ffôn: 01570 423583

07877 523149

Ebost: gwarffynnon@idnet.com

Routeplanner i Gwarffynnon:

Rhowch eich cod post yn y blwch isod, cliciwch, ac yna fe gewch chi gynllun o’ch taith.