Rydym tua milltir tu allan i Lanbedr Pont Steffan, lle ceir nifer o dai bwyta, tafarndai ac amrywiaeth o siopau. Mae yno dwy archfarchnad, siopau bach teuluol, siop yn gwerthu bwydydd organig a marchnad y ffermwyr bob pythefnos.
Mae tref Llanbedr Pont Steffan - neu Lanbed - yn enwog am Goleg Prifysgol Dewi Sant, y coleg prifysgol hynaf yng Nghymru a Lloegr ar wahân i Rydychen a Chaergrawnt. Cloddiodd y Rhufeiniaid am aur gerllaw Llanbed ym Mhumsaint.
Yn y ddeunawfed ganrif, roedd Llanbed yn fan pwysig gogyfer â chasglu creaduriaid at ei gilydd i'w gyrru i farchnadoedd Lloegr bell gan y porthmyn. Mae cefn gwlad fendigedig i'w mwynhau yn ardal Llanbed a physgota heriol ar yr afon Teifi gerllaw.
Gan amrywio o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth, sydd yn cartrefu rhai o drysorau pennaf y genedl Gymreig a'r gwledydd Celtaidd eraill, i dripiau cychod glan môr, gwarchodfeydd natur, llwybrau cerdded a beicio pleserus, mae gan Geredigion ystod gyfoethog o brofiadau i'ch disgwyl.

Llanerchaeron, Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mwynfeydd Aur Dolaucothi, Pumsaint, Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Canolfan Aur Cymreig Rhiannon, Tregaron.
Llwybr Arfordir Ceredigion.
Gwylio Adar yng Ngheredigion.
Taith Dylan Thomas.
Parc Fferm Fantasy.
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llwybrau Bwlch Nant Yr Arian, Ponterwyd.
Rhaeadrau, Pontarfynach.
Mwynfeydd Arian Llywernog, Ponterwyd.
Gorsaf B
er Rheidol, Cwmrheidol.
Anifeilfa Borth, Borth.
Canolfan Fforest Law Felinwynt, Aberteifi.

Gwarffynnon, Silian, Llanbedr Pont Steffan/Lampeter,
Ceredigion SA48 8AP
Ffôn/Tel: 01570 423583
E-bost/Email: gwarffynnon@westwalesholidaycottages.net