Lleolir Gwarffynnon mewn llecyn gwledig yng ngorllewin Cymru. Prynwyd y fferm gan Gwen a David yn Hydref 1988, blwyddyn cyn iddynt briodi. Newidiwyd y fferm draddodiadol hon i fferm odro fodern ac effeithiol. Dechreuwyd godro yng Ngwarffynnon yn 1991 ac er hynny, cynyddwyd y fuches o'r 30 buwch wreiddiol i 110, gyda 100 o stoc ifanc. Ystyrir yr anifeiliaid hyn fel aelodau o'r teulu, ac adnabyddir pob un ohonynt, ynghyd â'u mamau a'u neiniau gan Dai, wrth eu henwau.

Mae gan Gwarffynnon enw da, di-lychwyn wrth gynhyrchu llaeth o safon uchel, ac mae hwsmonaeth a lles yr anifeiliaid yn eithriadol o dda. Pora'r gwartheg Holstein a Jersey pedigri ar laswelltir mewn awyrgylch naturiol a bwydir porthiant o safon uchel iawn iddynt. Yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf, enwyd Gwarffynnon fel y fferm laswellt orau yn y Deyrnas Unedig, ddwywaith, y fferm a gynhyrchodd y silwair gorau yng Nghymru ar bedwar achlysur. Anrhydeddau eraill a dderbyniwyd yw'r Fferm Lanaf a Thaclusaf, Adeiladau Fferm Gorau a'r Fferm Lawr Gwlad Orau yng Nghymru. Gofalu am yr anifeiliaid a'u hamgylchedd yw blaenoriaeth y teulu.

Gwarffynnon, Silian, Llanbedr Pont Steffan/Lampeter,
Ceredigion SA48 8AP
Ffôn/Tel: 01570 423583
E-bost/Email: gwarffynnon@westwalesholidaycottages.net