Ceir dau fwthyn moethus yng Ngwarffynnon, wedi'u hadnewyddu'n atyniadol o hen dai allan cerrig y fferm. Mae Beudy Bach a Hen Ysgubor wedi'u cynllunio ar gyfer y sawl sydd â phroblemau symud. Bydd eich bwthyn wedi'i baratoi gyda dillad gwely a thywelion glân a chewch de Cymreig i'ch croesawu.
Beudy Bach - Cysgir hyd at 8 person ym Meudy Bach. Mae'r ystafell fyw groesawgar yn gartrefol a chysurus gyda st
f goed yn barod i'w chynnau. Ar y llawr isaf mae ystafell gyda dau wely sengl ag ystafell ymolchi gysylltiedig yn cynnwys sawna ac ystafell ager. Arweinir y grisiau pren i ystafell deuluol gyda gwely maint brenin, a gwelâu bync a Jacuzzi / baddon yn yr ystafell ymolchi gysylltiedig. Trawsnewidir y soffa i wely dwbl ar gyfer y ddau berson ychwanegol.
Hen Ysgubor - Mae Hen Ysgubor hefyd yn cysgu hyd at 8 person. Bydd awyrgylch groesawgar yn eich disgwyl yn ystafell fyw gartrefol Hen Ysgubor. Mae st
f goed yma i'ch cadw'n gynnes ar nosweithiau oer. Ar y llawr isaf mae ystafell wely gyda gwely mawr, gyda chawod yn yr ystafell ymolchi gysylltiedig. Mae'r ystafell hon yn addas ar gyfer yr anabl. Yn y llofft, mae dwy ystafell wely, un gyda dau wely sengl gyda Jacuzzi / baddon yn gysylltiedig i'r ystafell wely. Gwely dwbl sydd yn yr ystafell wely arall gyda chawod cerdded-i-mewn.
Mae'r ddau fwthyn yn mwynhau golygfeydd trawiadol o'r wlad.
Mae'r ceginau yn y ddau fwthyn â phob cyfarpar modern, megis peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell, microdon, popty a phentan, peiriant golchi dillad a sychwr dillad, haearn smwddio. Ceir lein ddillad tu allan. Mae digonedd o gyllyll a ffyrc, llestri, gwydrau, offer cegin a sosbannau i gael i wneud coginio'n bleser. Ym mhob lolfa mae teledu / DVD a chwaraewr cerddoriaeth.

Darperir dillad gwely a thywelion yn ddi-dâl. Mae cadair uchel a chot baban ar gael. Ym mhob bwthyn mae manylion am atyniadau lleol ar eich cyfer. Ar gyfer y tywydd braf, mae patio gyda dodrefn er mwyn i chi werthfawrogi'r golygfeydd, awyr iach a'r heulwen ac ymlacio wrth fwynhau barbiciw. Ceir digonedd o le saff ar gyfer parcio eich car. Mae croeso i westeion gerdded o amgylch y fferm a'r ardal gyfagos i weld y gweithgaredd dyddiol.

Yn eich disgwyl wrth gyrraedd, bydd te Cymreig a bwydydd lleol. Rydym yn cadw prydau parod yn y rhewgell ar gyfer nosweithiau nad ydych yn teimlo fel coginio. Ni chaniateir ysmygu yn y bythynnod. Cynhesir y bythynnod gan wres canolog. Mae ystafell chwarae gyda bwrdd p
l a thenis bwrdd ar gael. Yn yr ystafelloedd gwely, gellir rhoi cot baban neu wely sengl dros dro.

Mae Hen Ysgubor a Beudy Bach yn fythynnod ar gyfer pob tymor o'r flwyddyn.
Gwarffynnon, Silian, Llanbedr Pont Steffan/Lampeter,
Ceredigion SA48 8AP
Ffôn/Tel: 01570 423583
E-bost/Email: gwarffynnon@westwalesholidaycottages.net